Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Siambr Hywel - Tŷ Hywel

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 19 Tachwedd 2025

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
15437


313

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr Hywel, Tŷ Hywel ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg

Dechreuodd yr eitem am 13.30 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Dechreuodd yr eitem am 14.26 

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Ysgrifennydd Cabinet ar ôl cwestiwn 2. 

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.19 

Atebwyd gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip 
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar oblygiadau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu ar blismona yng Nghymru? 

Atebwyd gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio 
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn): A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad ar ddatblygiad gorsaf bŵer niwclear adweithydd modiwlar bach gyntaf y DU yn Wylfa? 

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 eiliad

Dechreuodd yr eitem am 15.54 

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ddatganiad ar - Trefor Lloyd-Hughes. 

Gwnaeth Rhys ab Owen ddatganiad ar – Diwrnod Cynamseroldeb y Byd.

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27

Dechreuodd yr eitem am 15.58 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

NDM9052Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16: 

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, fel y’i nodir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2026-27, aosodwydgerbron ySenedd ar 12 Tachwedd 2025, ai bod yn cael ei hymgorffori yng Nghynnig y Gyllideb Flynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii). 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

35 

13 

48 

Derbyniwyd y cynnig. 

</AI6>

<AI7>

6       Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro

Dechreuodd yr eitem am 16.22 

NDM9051Elin Jones (Ceredigion) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8: 

Yn atal Rheol Sefydlog 13.6 dros dro i ganiatáu i Aelodau gyfrannu fwy nag unwaith yn ystod y Ddadl Agored arNDM9046yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 19 Tachwedd 2025. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Agored

Dechreuodd yr eitem am 16.22 

NDM9046Julie Morgan (Gogledd Caerdydd) 

A fyddai treth gyfoeth yn gweithio i Gymru? 

Cyd-gyflwynwyr    
John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) 
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru) 
Cefnogwyr 
Mick Antoniw (Pontypridd) 

Am 18.04, cafodd y trafodion eu hatal dros dro am 6 munud. 

</AI8>

<AI9>

8       Dadl Plaid Cymru - Cyllideb y DU a datganoli

Dechreuodd yr eitem am 18.10 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio: 

NDM9054Heledd Fychan (Canol De Cymru) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn nodi cyllideb hydref Llywodraeth Lafur y DU sydd ar ddod, ac a gaiff ei chyhoeddi ar 26 Tachwedd. 

2. Yn gresynu bod digwyddiadau cyllidol blaenorol gan Lywodraeth Lafur bresennol y DU wedi methu â chyflawni addewidion hirdymor a wnaed i bobl Cymru. 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefyll i fyny dros fuddiannau pobl Cymru drwy wneud sylwadau i Lywodraeth Lafur y DU, a chyhoeddi'r ohebiaeth berthnasol, i: 

a) datblygu cynllun clir, gydag amserlenni penodol, i ddatblygu fformiwla ariannu newydd ar gyfer Cymru yn seiliedig ar angen, ac wedi'i gosod ar sail statudol; 

b) gwrthdroi newidiadau i'r dreth etifeddiant ar ffermydd teuluol, ac ad-dalu'n llawn i sector cyhoeddus Cymru am newidiadau i gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr; 

c) galluogi'r Senedd i osod ei bandiau treth incwm ei hun; 

d) uwchraddio pwerau benthyca a therfynau tynnu i lawr y Senedd ar gyfer Cronfa Wrth Gefn Cymru yn unol â chwyddiant fel cam cyntaf tuag at foderneiddio ei phensaernïaeth gyllidol; 

e) darparu cyllid canlyniadol llawn sy'n ddyledus i Gymru o'r prosiect HS2; 

f) datganoli Ystad y Goron er mwyn galluogi Cymru i elwa'n deg o'i hadnoddau naturiol ei hun; 

g) dileu'r cap budd-dal dau blentyn; 

h) datganoli pwerau cyfiawnder a phlismona yn llawn i Gymru; ac 

i) cyflwyno treth cyfoeth o 2 y cant ar asedau dros £10 miliwn a gwneud treth enillion cyfalaf yn gyfartal â threth incwm i symud ailddosbarthu ymlaen a darparu cymorth costau byw mwy cadarn i aelwydydd Cymru. 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

11 

37 

48 

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio. 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: 

Gwelliant 1Jane Hutt (Bro Morgannwg)   
Dileu
popetharôlpwynt1. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

24 

25 

49 

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant. 

 

Gwelliant2Paul Davies (Preseli SirBenfro) 
Ym
mhwynt3,dileuis-bwyntiaua)ii) arhoiyneulle: 

a)adolygu'rfframwaithcyllidolar gyfer Cymru,gangynnwyspweraubenthycaatherfynautynnuilawr; 

b)gwrthdroi'rnewidiadautrethetifeddiantar gyferffermyddteuluolachwmnïauteuluol; 

c)gwrthdroi'rcynnyddmewnyswiriantgwladolcyflogwyrac ad-daluCymru amfethuagariannucostaullawn yrhainhydyma; 

d)diystyruunrhywgodiadautrethnewydd; 

e)diogelu'rclotriphlygarbensiynau'rwladwriaeth; 

f)darparucyllidcanlyniadoliGymruoganlyniadiwariantar HS2 abuddsoddiadaurheilffyrddRhydychenaChaergrawnt; 

g)adfercyllid ar gyfertrydaneiddiopriflinellGogleddCymru; 

h)cynyddubuddsoddiadiddiogeluffiniau'rDUymmhorthladdoeddCymruiatalmewnfudoanghyfreithlon; ac 

i)darparuadnoddauychwanegoliddarparufforddliniaru'rM4 acuwchraddiocefnfforddyr A55, oystyriedeupwysigrwyddfelllwybraustrategolar gyfercysyllteddy DU. 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

13 

35 

48 

Gwrthodwyd gwelliant 2. 

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.   

</AI9>

<AI10>

9       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Pedwerydd adroddiad ar hugain i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

Dechreuodd yr eitem am 19.13 

NDM9053Hannah Blythyn (Delyn) 

Cynnig bod y Senedd: 

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad — Y pedwerydd adroddiad ar hugain i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Tachwedd 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9. 

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad fod rheol wedi ei thorri. 

3. Yn penderfynu y caiff yr Aelod ei wahardd o drafodion y Senedd o dan Reol Sefydlog 22.10(iii) am gyfnod o 14 diwrnod, ac eithrio dyddiau yn ystod toriad y Senedd, gan ddechrau’n syth wedi i’r cynnig hwn gael ei dderbyn a chan ddod i ben dim hwyrach na hanner nos ar 3 Rhagfyr 2025. 

4. Yn nodi na fydd yr Aelod yn cael hawlio unrhyw gyflog gan y Senedd ar gyfer y dyddiau y mae pwynt 3 uchod yn gymwys ar eu cyfer, yn unol â Rheol Sefydlog 22.10A 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36. 

</AI10>

<AI11>

10    Cyfnod pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 19.19 

</AI11>

<AI12>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 19.23

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Tachwedd 2025

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>